Rhyddfrydoli economaidd

Cynllun neu raglen o bolisïau economaidd sydd yn anelu at ddadreoleiddio'r economi yw rhyddfrydoli economaidd. Mae'r fath ddiwygiadau yn rhoi ideoleg rhyddfrydiaeth economaidd ar waith, gyda'r nod o annog datblygiad economaidd drwy ddileu cyfyngiadau ar y farchnad rydd. Arddelir polisïau o'r fath gan ryddfrydwyr clasurol a neo-ryddfrydwyr. Argymhellir rhyddfrydoli economaidd gan sefydliadau'r gyfundrefn gyfalafol ryngwladol: y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) a Banc y Byd. Rhoddwyd Consensws Washington ar waith mewn sawl gwlad ddatblygol ers y 1990au i ryddfrydoli economïau'r byd datblygol.

Mae cynlluniau strategol i ryddfrydoli economïau yn aml yn cynnwys lleihau'r diffyg cyllidol, polisïau datchwyddiant, dadreoleiddio'r farchnad lafur, cynyddu effeithlonrwydd yr economi, helaethu'r ystod o bethau y gallai'r llywodraeth godi trethi arni, a chorfforaethu a phreifateiddio asedau llywodraethol. Mae polisïau economaidd o'r fath yn groes i ymyrraeth lywodraethol yn yr economi, trwy reoliadau, perchenogaeth y wladwriaeth ar isadeiledd a gwasanaethau cyhoeddus, a diffyndollaeth.

Mae rhyddfrydoli economaidd yn cael gwared â rhwystrau sefydliadol i fasnach rydd ac felly yn creu marchnadoedd byd-eang ac yn gyrru proses globaleiddio. Mae gwrthwynebwyr, er enghraifft yn y mudiad gwrth-globaleiddio, yn ystyried rhyddfrydoli economaidd yn strategaeth fwriadol i wanhau rôl y wladwriaeth yn y gymdeithas ac i ostwng gwariant ar les cymdeithasol, iechyd, ac addysg.[1]

  1. Ruth McManus, "Economic liberalization" yn Globalization: The Key Concepts, golygwyd gan Annabelle Mooney a Betsy Evans (Llundain: Routledge, 2007), t. 74.

Developed by StudentB